Mesur y galw am addysg ol-16 trwy gyfrwng y Gymraeg ymhlith disgyblion Blwyddyn 11 sydd yn astudio'r Gymraeg fel iaith gyntaf mewn tair ysgol uwchradd yng Ngheredigion.

Jones, Sandra Morris (2010) Mesur y galw am addysg ol-16 trwy gyfrwng y Gymraeg ymhlith disgyblion Blwyddyn 11 sydd yn astudio'r Gymraeg fel iaith gyntaf mewn tair ysgol uwchradd yng Ngheredigion. Masters thesis, University of Wales, Trinity St David.

[img]
Preview
Text
MA Sandra 11 terfynol.pdf
Available under License CC-BY Creative Commons Attribution.

Download (952kB) | Preview

Abstract

Gosodir yr ymchwil o fewn cyd-destun agenda ieithyddol cenedlaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) i greu cynnydd o 5% yn nifer y siaradwyr Cymraeg erbyn 2011, fel yr amlinellir mewn dogfennau megis Iaith Pawb: Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Cymru Ddwyieithog (LlCC, 2003). I gyd-redeg â‟r twf hwnnw yn ogystal, bwriedir sicrhau cynnydd yn y ddarpariaeth ac yn y galw am addysg Gymraeg/ddwyieithog, megis yr adroddir yn y ddogfen ymgyngoriadol Strategaeth Addysg Cyfrwng-Cymraeg (LlCC,2009). Fel modd i sicrhau dilyniant i‟r ddarpariaeth statudol trwy gyfrwng y Gymraeg, mae gan y sector addysg uwch hefyd swyddogaeth allweddol. Gosodwyd yn Iaith Pawb (LlCC, 2003), felly, nod o sicrhau cynnydd o 7% yn nifer y myfyrwyr sydd yn dilyn cyrsiau naill ai yn llawn neu‟n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector hwnnw. Erbyn hyn sefydlwyd y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng-Cymraeg i hyrwyddo‟r datblygiad gyda‟i hadain farchnata, MANTAIS, yn chwarae rhan bwysigi godi ymwybyddiaeth ymhlith darpar-fyfyrwyr o‟r cyfleoedd sydd ar gael. Serch hynny, er awydd Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynyddu‟r ddarpariaeth gyfrwng-Cymraeg ar draws y sectorau, gan gynnwys y sector Addysg Bellach ac Addysg Uwch, ni ellir sicrhau llwyddiant i‟r agenda ieithyddol ar raddfa genedlaethol oni bai y gellir sicrhau cynnydd yn y galw yn ogystal. Bwriad yr ymchwil oedd asesu lefel y galw hwnnw ymhlith disgyblion oedd ar fin gorffen cyfnod o addysg statudol trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion4 uwchradd. Cyfyngwyd yr ymchwil i ddisgyblion ym Mlwyddyn 11 mewn tair ysgol uwchradd o fewn un awdurdod addysg lleol yng Nghymru gyda‟r bwriad o weld i ba raddau roedd agenda ieithyddol cenedlaethol LlCC yn dylanwadu ar eu dewis o gyfrwng addysg neu hyfforddiant ar gyfer y dyfodol.

Item Type: Thesis (Masters)
Additional Information: Series: Carmarthen / Lampeter Dissertations;10412/212.
Uncontrolled Keywords: Welsh medium education, Secondary schools Ceredigion (Wales)
Subjects: L Education > LB Theory and practice of education > LB1603 Secondary Education. High schools
Divisions: Theses and Dissertations > Masters Dissertations
Related URLs:
Depositing User: John Dalling
Date Deposited: 30 Oct 2014 18:25
Last Modified: 11 Feb 2016 11:22
URI: https://repository.uwtsd.ac.uk/id/eprint/400

Administrator Actions (login required)

Edit Item - Repository Staff Only Edit Item - Repository Staff Only