Pentigily o Dudrath i Dyddewi : Llenyddiaeth Dafodieithol Penfro

Thomas, Ruth (2020) Pentigily o Dudrath i Dyddewi : Llenyddiaeth Dafodieithol Penfro. Doctoral thesis, University of Wales Trinity Saint David.

[img]
Preview
Text
Thomas Ruth (2020) Pentigily o Dudrath i Dyddewi - Llenyddiaeth Dafodieithol Penfro (002) (2).pdf - Accepted Version
Available under License CC-BY-NC-ND Creative Commons Attribution Non-commercial No Derivatives.

Download (2MB) | Preview

Abstract

Amcan y gwaith ymchwil hwn yw cynnig disgrifiad a dadansoddiad beirniadol o lenyddiaeth dafodieithol, ei natur a’i gwerth, gan ffocysu ar dafodiaith Sir Benfro. Ychydig a ysgrifennwyd yn gyffredinol am y maes yn y Gymraeg ac ni chyflwynwyd unrhyw draethawd ymchwil yn benodol ar lenyddiaeth dafodieithol hyd yma. Y mae’r ymchwil hwn nid yn unig yn cyfrannu at yr hyn sy’n bodoli eisoes ym maes llenyddiaeth dafodieithol, ond yn ogystal yn cyflwyno dadansoddiad cynhwysfawr o lenyddiaeth ardal benodol. Er mwyn gosod y traethawd yn ei gyd-destun, yn y bennod gyntaf cyflwynir ac ystyrir iaith, tafodiaith a llenyddiaeth dafodieithol. Trafodir natur a phwrpas iaith gan roi sylw penodol i’r iaith Gymraeg, diffiniad tafodiaith ac agweddau ati ynghyd â natur llenyddiaeth dafodieithol a’i gwerth yn gyffredinol. Yn yr ail bennod, trafodir y fethodoleg ymchwil a ddefnyddiwyd wrth astudio’r maes hwn. Cyflwynir yn ogystal y pum cwestiwn y dymunir eu hateb yn ystod proses casglu a dadansoddi gwybodaeth. Yn y drydedd bennod ystyrir a thrafodir rhai awduron Cymreig a ysgrifennodd lenyddiaeth dafodieithol. Rhoddir enghreifftiau a blas o’r llenyddiaeth dafodieithol sy’n bodoli yn y Gymraeg, a hynny o wahanol rannau o Gymru, a’r amcan yw cyfrannu at y drafodaeth ehangach am lenyddiaeth dafodieithol Gymraeg yn hytrach na chyfyngu’r drafodaeth i un ardal benodol yn unig. Yn y bedwaredd bennod, ystyrir y gwahaniaethau rhwng tafodieithoedd y de a’r gogledd, cyn manylu ar dafodiaith Sir Benfro, gan egluro sut y mae’n wahanol i dafodieithoedd eraill y de. Er nad astudiaeth o’r iaith a ddefnyddir yn y gweithiau amrywiol yw hon ond astudiaeth lenyddol, trafodir rhai o nodweddion a geirfa tafodiaith Sir Benfro er mwyn rhoi esboniad ohonynt i’r darllenydd cyn dyfynnu o lenyddiaeth dafodieithol y sir yn y penodau sy’n dilyn. Yn y bumed bennod ystyrir a dadansoddir enghreifftiau o’r llenyddiaeth a ysgrifennwyd gan awduron unigol yn nhafodiaith Sir Benfro, o’r cofnod cynharaf sydd ar gael, hyd y gwyddys, yn 1889 hyd at heddiw. Eir ymlaen yn y chweched bennod i ystyried cyfrolau o lenyddiaeth, rhai ohonynt wedi eu hysgrifennu yn gyfan gwbl mewn tafodiaith ac eraill (sydd yn tarddu o Sir Benfro neu wedi eu seilio yno, neu wedi eu hysgrifennu gan awduron a aned neu a fu’n byw yn y sir ar ryw adeg yn eu bywyd) yn cynnwys rhai gweithiau mewn tafodiaith. Un o awduron tafodieithol enwocaf Sir Benfro yw Dewi Emrys. Gan fod ei gerdd dafodieithol ‘Pwllderi’ yn gerdd arloesol yn nhermau canu tafodieithol Cymraeg, neilltuir pennod saith i drafod yr awdur hwn. Un o awduron tafodieithol mwyaf cynhyrchiol Sir Benfro yw W. R. Evans. Yn fardd, llenor a sylfaenydd y côr ‘Bois y Frenni’, gwnaeth lawer i hybu, poblogeiddio a dyrchafu llenyddiaeth dafodieithol y sir, ac fe’i hystyrir yn yr wythfed bennod. Yn y nawfed bennod, y Casgliad ac Argymhellion, atebir y pum cwestiwn a luniwyd ar ddechrau’r gwaith ymchwil hwn ac amlygir y prif faterion yn codi ohono. Yn ogystal, awgrymir meysydd y gellid ymchwilio iddynt ymhellach er mwyn ehangu’r drafodaeth a’r ddealltwriaeth o lenyddiaeth dafodieithol.

Item Type: Thesis (Doctoral)
Uncontrolled Keywords: Welsh literature, Pembrokeshire, Dialect
Subjects: P Language and Literature > PN Literature (General)
Divisions: Theses and Dissertations > Doctoral Theses
Depositing User: Ruth Thomas
Date Deposited: 06 Apr 2020 13:01
Last Modified: 06 Apr 2020 13:01
URI: https://repository.uwtsd.ac.uk/id/eprint/1284

Administrator Actions (login required)

Edit Item - Repository Staff Only Edit Item - Repository Staff Only