Trosolwg o’r traddodiadau am Elen Luyddog/Santes Helen yn yr Oesoedd Canol yng Nghymru

Jones, Steven Peter (2018) Trosolwg o’r traddodiadau am Elen Luyddog/Santes Helen yn yr Oesoedd Canol yng Nghymru. Masters thesis, University of Wales Trinity Saint David.

[img]
Preview
Text
Jones, Steven (2018) MA Trosolwg o'r traddodiadau.pdf - Accepted Version
Available under License CC-BY-NC-ND Creative Commons Attribution Non-commercial No Derivatives.

Download (903kB) | Preview

Abstract

Erbyn heddiw, mae’n debyg ein bod yn cysylltu’r enw Elen/Helen â ffyrdd Rhufeinig Sarn Helen yn bennaf, ynghyd ag enwau lleoedd ac eglwysi yn ardal Caernarfon. Ond pwy, mewn gwirionedd, oedd Elen Luyddog, a sut y cafodd y traddodiadau amdani eu cysylltu â hanes Santes Helena yr honnir iddi ddarganfod croes Iesu Grist? Pam y mae enw Elen/Helen fel pe bai’n ymddangos mewn llawysgrifau Cymraeg mor aml yn yr Oesoedd Canol? Bwriad y gwaith hwn yw ystyried y dystiolaeth ganoloesol yn ymwneud ag Elen Luyddog/Santes Helen er mwyn pwyso a mesur datblygiad y traddodiadau amdani yng Nghymru. Fel y gwelir maes o law, ceir nifer o gyfeiriadau at Elen/Helen mewn dogfennau a chyddestunau gwahanol yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol, gan gynnwys mewn achau Cymraeg, chwedl secwlar, barddoniaeth, cyfieithiad Cymraeg o hanes Santes Helena a gwaith celf. Ymgais yw’r gwaith hwn i ddwyn ynghyd y ffynonellau gwahanol er mwyn pwyso a mesur arwyddocâd Elen Luyddog/Santes Helen yn yr Oesoedd Canol yng Nghymru.

Item Type: Thesis (Masters)
Uncontrolled Keywords: Elen Luyddog, Cymru oesoedd canol, Wales Middle Ages
Divisions: Theses and Dissertations > Masters Dissertations
Depositing User: Users 10 not found.
Date Deposited: 15 Jun 2021 10:25
Last Modified: 15 Jun 2021 10:25
URI: https://repository.uwtsd.ac.uk/id/eprint/1699

Administrator Actions (login required)

Edit Item - Repository Staff Only Edit Item - Repository Staff Only