Darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sector twristiaeth yng Nghymru

Lewis, Robert Michael (2016) Darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sector twristiaeth yng Nghymru. Masters thesis, University of Wales Trinity Saint David.

[img]
Preview
Text
Robert Lewis - Traethawd MRes - terfynol - i'w argraffu.pdf - Accepted Version
Available under License Creative Commons Attribution Non-commercial No Derivatives.

Download (684kB) | Preview

Abstract

Amcanion a chwmpas yr astudiaeth Mewn ymateb i strategaeth iaith y Llywodraeth Iaith fyw: iaith byw (Llywodraeth Cymru, 2012a) ac wrth weithredu strategaeth dwristiaeth Partneriaeth ar gyfer twf (Llywodraeth Cymru, 2013a), datblyga Croeso Cymru (1) (cyfeiria’r rhifau mewn cromfachau at y Nodiadau, tud. 98-99) ystod o bolisïau a gweithgareddau i hyrwyddo a hybu defnydd y Gymraeg a dwyieithrwydd ym maes twristiaeth. Gellir ystyried y mentrau hyn yn rhan o broses normaleiddio defnydd y Gymraeg: mae twristiaeth ar flaen y gad o ran ymestyn defnydd y Gymraeg a gwrthsefyll dyfudiad iaith (gweler tud. 13-22 isod). Yn Rhan 1 gosodir y cyd-destun o safbwynt polisi, cynllunio iaith, marchnata, twristiaeth ddiwylliannol a chanfyddiadau defnyddwyr a busnesau. Ffocws Rhan 2 yw’r ymchwil gwreiddiol. Amcanion yr astudiaeth oedd: 1. Taflu goleuni ar y newidynnau pwysicaf sy’n effeithio ar ddarpariaeth Gymraeg a dwyieithog ym maes twristiaeth 2. Cyrraedd dealltwriaeth well o agweddau at yr iaith Gymraeg a dwyieithrwydd ymhlith busnesau twristiaeth (yr ochr gyflenwad yn nhermau economeg) ac ymhlith defnyddwyr (yr ochr alwad) 3. Dangos y prif fylchau gwybodaeth ac awgrymu pynciau ar gyfer ymchwil pellach Ni chynhaliwyd yr astudiaeth hon at ddibenion academaidd yn unig ond hefyd gyda’r bwriad o gymhwyso’r deilliannau mewn cyd-destun ymarferol, sef llunio darpariaeth Croeso Cymru o ran defnydd yr iaith Gymraeg a dwyieithrwydd yn y sector twristiaeth. O’r cychwyn cyntaf, felly, roedd gan y prosiect berthnasedd ymarferol uniongyrchol ac fe’i cynhaliwyd gyda chaniatâd a chefnogaeth gyflawn Croeso Cymru. Yn 2015 bu hysbysebion teledu Croeso Cymru Does unman tebyg i Gymru/Have you packed for Wales? (2), hysbysebion radio, deunydd argraffedig, darpariaeth ar gyfer y wefan, cyfryngau cymdeithasol a stondinau arddangosfeydd, yn Gymraeg a Saesneg (3), yn unol â Safonau arfaethedig mewn perthynas â’r Gymraeg (Llywodraeth Cymru, 2014). Yn ogystal, mae’r Gymraeg a Chymreictod yn ganolog i’r brand a lansiwyd yn swyddogol yn Ionawr 2016 (gweler tud. 8-9) ac yn 2016 eto, cyflawnir pob elfen farchnata yn Gymraeg a Saesneg. Yng Ngorffennaf 2014, mewn papur byr i’r Bwrdd Cynghori Twristiaeth, amlinellwyd pum blaenoriaeth o ran hyrwyddo defnydd y Gymraeg mewn busnesau twristiaeth, sef: 1. Graddio: Defnyddio cynllun sicrhau ansawdd i annog busnesau i gyflwyno’r iaith Gymraeg. Ystyried modd cydnabod iaith a diwylliant o fewn y cynllun graddio. 2. Cyllido: Defnyddio cynlluniau grantiau i annog darpariaeth Gymraeg a dwyieithog. 3. Ymgysylltu rhanbarthol: Gyda strwythur rhanbarthol newydd o fewn Croeso Cymru, mae cyfle i weithio gyda busnesau unigol a dangos enghreifftiau arfer da yn ogystal â chynnwys ystyriaethau ynghylch yr iaith Gymraeg yn y cysylltiadau arferol â’r diwydiant. 4. Sgiliau: Ystyried anghenion ieithyddol busnesau twristiaeth ac annog Cymry Cymraeg i ddilyn gyrfaoedd yn y diwydiant. 5. Cadwyni / Cwmnïau Mawr: Annog naws lle mewn gwestai sy’n rhan o gadwyn Brydeinig neu ryngwladol. Mae cydweithredu â Swyddfa’r Comisiynydd yn ganolog i’r cynllun. Ystyrir y Gymraeg a Chymreictod yn adnodd (gweler Ruiz, 1984) i wahaniaethu Cymru fel cyrchfan ond ar lefel busnesau unigol mae darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn hollol wirfoddol. O ganlyniad, ceir ystod o ymatebion: rhai busnesau lle mae’r iaith Gymraeg yn hollol ganolog, rhai lle mae’r iaith yn elfen i feithrin naws lle, ac eraill lle ystyrir darpariaeth ddwyieithog yn ymylol neu’n amherthnasol. Yn aml gwelir darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn gost ychwanegol. Dibynna’r dewis ynghylch rôl y Gymraeg a dwyieithrwydd mewn busnes ar nifer o ffactorau, gan gynnwys proffil y cwsmeriaid, cyfansoddiad ieithyddol yr ardal, agwedd y perchnogion at yr iaith a blaenoriaethau marchnata. Dyma ffocws yr ymchwil gwreiddiol a gynhaliwyd fel rhan o’r astudiaeth hon. Bwriedir i ganlyniadau’r astudiaeth hon ddarparu sail tystiolaeth a fydd yn helpu i gyfeirio gwaith Croeso Cymru. Ar yr un pryd, rhaid pwysleisio mai gwaith academaidd annibynnol a gynhaliwyd o safbwynt ieithyddol (yn hytrach nag o safbwynt Astudiaethau Busnes neu Farchnata) yw’r prosiect hwn. Y farn a fynegir yw barn yr awdur ac ni adlewyrcha o anghenraid farn y Llywodraeth. Yn ogystal, cymer yr awdur gyfrifoldeb llawn am unrhyw wallau neu ddiffygion yn yr ymchwil. Natur yr astudiaeth Ceir manylion technegol yr ymchwil gwreiddiol yn yr adran ar Fethodoleg ond, er mwyn sefydlu’r cefndir, roedd dwy gydran gyfategol i’r ymchwil: elfen ansoddol ac elfen feintiol. Rhoddwyd y pwyslais ar yr ymchwil ansoddol ymhlith busnesau ond roedd yr ymchwil meintiol yn gyflenwol ac ychwanegodd ddimensiwn diddorol arall i’r astudiaeth. Cynhaliwyd yr ymchwil ansoddol ar ffurf cyfweliadau dwfn, sef sgyrsiau strwythuredig â pherchnogion/rheolwyr sbectrwm o fusnesau twristiaeth. Diben y cyfweliadau oedd ymchwilio i’r ffactorau sydd yn effeithio ar ddarpariaeth ddwyieithog ac hefyd i agweddau’r busnesau at ddarpariaeth ddwyieithog. Yn fras, cyfetyb darpariaeth i gyflenwad ond cynhwysa hefyd agweddau ar farchnata a chyflwyno’r cynnyrch, boed ar lefel busnes unigol neu wlad gyfan. Cynhaliwyd yr ymchwil meintiol ar ffurf dau gwestiwn parthed natur cyfraniad ieithoedd lleol yn gyffredinol, a’r iaith Gymraeg yn benodol, i’r profiad gwyliau. Cynhwyswyd y cwestiynau ar Arolwg Poblogaeth Prydain Fawr, sef panel ar-lein sy’n rhan o Brosiect Gwerthuso Marchnata Croeso Cymru. Yn fras, cyfetyb canfyddiadau’r ymwelwyr i alwad, ond mae canfyddiadau’r cyhoedd hefyd yn adlewyrchu agweddau’r defnyddwyr, sydd â pherthnasedd i segmenteiddio a thargedu gwaith marchnata.

Item Type: Thesis (Masters)
Uncontrolled Keywords: Welsh language Tourism Wales
Subjects: P Language and Literature > P Philology. Linguistics
Divisions: Theses and Dissertations > Masters Dissertations
Depositing User: Users 10 not found.
Date Deposited: 12 Aug 2016 09:21
Last Modified: 21 Apr 2017 11:12
URI: https://repository.uwtsd.ac.uk/id/eprint/653

Administrator Actions (login required)

Edit Item - Repository Staff Only Edit Item - Repository Staff Only