Datblygiad yr eglwysi Annibynnol yn ne-orllewin Cymru, c.1790-1837, gyda sylw arbennig i gyfraniad David Davies, Abertawe (1763-1816), Morgan Jones, Tre-lech (1768-1835) a David Peter, Caerfyrddin (1765-1837)

Evans, Emyr Gwyn (2022) Datblygiad yr eglwysi Annibynnol yn ne-orllewin Cymru, c.1790-1837, gyda sylw arbennig i gyfraniad David Davies, Abertawe (1763-1816), Morgan Jones, Tre-lech (1768-1835) a David Peter, Caerfyrddin (1765-1837). Doctoral thesis, University of Wales Trinity Saint David.

[img]
Preview
Text
2057 Evans, E. Datblygiad (2022).pdf - Submitted Version
Available under License Creative Commons Attribution Non-commercial No Derivatives.

Download (3MB) | Preview

Abstract

Cyfnod rhwng dau gyfnod, sef cyfnod yr Hen Ymneilltuaeth a chyfnod yr Ymneilltuaeth Newydd, oedd 1790-1837, blynyddoedd a welodd newidiadau mawr yn hanes cymdeithasol Cymru a thwf aruthrol yn hanes yr eglwysi Ymneilltuol. Mae’r traethawd yn darlunio bywyd a gwaith tri arweinydd Annibynnol, sef David Davies, Morgan Jones, a David Peter, a fu’n allweddol yn y newid hwn, gan ddadansoddi arwyddocâd eu cyfraniad. Dewiswyd de-orllewin Cymru yn faes yr astudiaeth fel enghraifft daleithiol o’r hyn a oedd yn digwydd yn genedlaethol, ac er mwyn tanlinellu pwysigrwydd tri ffigur na chafodd sylw eang gan haneswyr hyd yn hyn. Roedd gweinidogaethau y tri yn cwmpasu eglwysi yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin, Abertawe a’i chyffiniau sef ardal oedd yn prysur ddatblygu’n ddiwydiannol ar y pryd, a chanolfan drefol bwysig, sef tref Caerfyrddin. Tafolir nodweddion y gwahanol fathau o Galfiniaeth efengylaidd a arddelwyd gan y tri, a’i heffeithiolwrydd yn wyneb yr Arminiaeth a’r Ariaeth resymoliaethol a oedd yn datblygu ar y pryd. Rhoir sylw arbennig i yrfa David Peter fel Pennaeth Academi Caerfyrddin, a’i ran mewn cymedroli’r hen Uchel-Galfiniaeth a goleddwyd gan lawer o’r Hen Ymneilltuwyr gynt, a lledu dylanwad Calfiniaeth Fodern ‘y System Newydd’, diwinyddiaeth y daeth mwyafrif gweinidogion yr Annibynwyr i’w harddel erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r tri yn cynrychioli math newydd o weinidogion, yn lletach eu gorwelion ac yn fwy egnïol eu gweithgaredd na’r rhai a fu o’u blaen, a fynnent hyrwyddo achos y genhadaeth dramor yn ogystal ag estyn tiriogaeth Ymneilltuaeth gartref trwy efengylu’n rymus a phlannu toreth o eglwysi newydd. Bu’r tri yn gweinidogaethu yn ystod tymhorau o ddiwygiad ac ar anterth oes aur pregethu yng Nghymru, a chyfrannent yn helaeth at ffyniant yr Ymneilltuaeth dorfol a fu’n fynegiant mor bwerus o Gristnogaeth werinol Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Item Type: Thesis (Doctoral)
Subjects: B Philosophy. Psychology. Religion > BX Christian Denominations
D History General and Old World > DA Great Britain
Divisions: Theses and Dissertations > Doctoral Theses
Depositing User: Lesley Cresswell
Date Deposited: 01 Aug 2022 14:19
Last Modified: 01 Aug 2022 14:19
URI: https://repository.uwtsd.ac.uk/id/eprint/2057

Administrator Actions (login required)

Edit Item - Repository Staff Only Edit Item - Repository Staff Only