I ba raddau y mae darpariaeth addysg Gymraeg ar gyfer hwyrddyfodiaid ar lefel llywodraeth leol yn cydweddu ag amcanion ieithyddol a hyrwyddol llywodraeth ganol yng Nghymru? Golwg ar y De-ddwyrain.

Maher, Elin (2023) I ba raddau y mae darpariaeth addysg Gymraeg ar gyfer hwyrddyfodiaid ar lefel llywodraeth leol yn cydweddu ag amcanion ieithyddol a hyrwyddol llywodraeth ganol yng Nghymru? Golwg ar y De-ddwyrain. Masters thesis, University of Wales Trinity Saint David.

[img]
Preview
Text
Maher_Elin_2023_Thesis.pdf - Accepted Version
Available under License CC-BY-NC-ND Creative Commons Attribution Non-commercial No Derivatives.

Download (2MB) | Preview

Abstract

“Nod Llywodraeth Cymru yn ei strategaeth Cymraeg 2050 yw sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn canol y ganrif (Llywodraeth Cymru 2017a). Mae’r ddarpariaeth addysg drochi hwyr yn rhan allweddol o wireddu’r nod hwn, oherwydd ei bod yn cynyddu’r nifer o bwyntiau mynediad at y sector cyfrwng Cymraeg a dwyieithog drwy gydol gyrfa addysgol y disgybl.” (Llywodraeth Cymru 2021) Mae'r traethawd hir hwn yn edrych ar i ba raddau y mae darpariaeth addysg drochi hwyr i’r Gymraeg ar lefel llywodraeth leol, yn cydweddu ag amcanion ieithyddol a hyrwyddo llywodraeth ganol yng Nghymru. Gan ystyried y datblygiadau diweddar ym maes polisi iaith ac addysg Gymraeg yng Nghymru, edrychir ar arwyddocâd a pherthnasedd addysg drochi hwyr i’r unfed ganrif ar hugain gan holi ambell gwestiwn megis “Oes angen addysg drochi hwyr yng Nghymru o hyd neu a ddylai’r system addysg gefnogi addysgu’r Gymraeg o’r blynyddoedd cynnar yn unig?” ac “ a oes cysondeb rhwng y modd y mae gwahanol Awdurdodau Lleol yn mynd i’r afael â darparaieth drochi hwyr ? ” Edrychir ar beth yw diffuniad trochi ieithyddol hwyr, dechreuadau’r fethodoleg hon a sut y mae trochi ieithyddol hwyr wedi datblygu dros y blynyddoedd fel methodoleg i gaffael iaith. Adolygir y mathau gwahanol o drochi iaith sydd yn digwydd yn y byd ac yng Nghymru heddiw. Ffocysir ar Dde Ddwyrain Cymru’n benodol yn yr ymchwil ei hun a’r heriau sydd yn wynebu ardal sydd â’r siroedd o ddwysedd siaradwyr Cymraeg cymunedol isaf yng Nghymru a phriodoldeb a chysondeb y ddarpariaeth drochi hwyr yn yr ardal hon. Ymchwilir i brofiadau rhieni a’r gweithlu wrth gynnal trosolwg o’r sefyllfa ar draws yr ardal, gan gyflwyno argymhellion mewn cyfnod o arwyddocâd cymdeithasol gyda Cofid-19 ac addysgol ar drothwy cychwyn gweithredu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg 2022-2023.

Item Type: Thesis (Masters)
Subjects: L Education > LB Theory and practice of education > LB1603 Secondary Education. High schools
P Language and Literature > PB Modern European Languages > PB1501 Gaelic (Scottish Gaelic, Erse)
Divisions: Theses and Dissertations > Masters Dissertations
Depositing User: Victoria Hankinson
Date Deposited: 01 Oct 2024 10:27
Last Modified: 01 Oct 2024 10:27
URI: https://repository.uwtsd.ac.uk/id/eprint/3163

Administrator Actions (login required)

Edit Item - Repository Staff Only Edit Item - Repository Staff Only