Corp, Melanie (2023) Siaradaeth frodorol: ymchwil i’w fodolaeth posibl ymhlith athrawon yng Nghymru. Masters thesis, University of Wales Trinity Saint David.
|
Text
2525 Corp Melanie 2023 SIARADAETH FRODOROL.pdf Download (4MB) | Preview |
Abstract
Ceir ymchwil yn yr astudiaeth hon i ffenomen a elwir yn ‘native-speakerism’ ac y cyfeirir ati fel ‘siaradaeth frodorol’ ar gyfer ei thrafod yn y Gymraeg. Dechreua’r astudiaeth gyda disgrifiad o’r cyd-destun ieithyddol yng Nghymru, gan gynnwys yr ymgyrch wleidyddol i gynyddu nifer siaradwyr yr iaith Gymraeg. Gyda bodolaeth siaradaeth frodorol ar lefel rhyngwladol, ceir sefyllfa lle rhoddir mwy o anrhydedd i unigolion a ystyrir yn siaradwyr ‘mamiaith’ wrth iddynt weithio fel athrawon yn addysgu iaith benodol i blant neu oedolion. Mewn nifer o wledydd ceir amodau cyflogaeth swyddogol yn cefnogi bodolaeth y ffenomen. Serch hynny, gwrthodir siaradaeth frodorol fel math o ragfarn gan eraill. Yn yr adolygiad llenyddol sonnir am ymchwil yn ceisio datgan buddion o gael athrawon sydd eisoes wedi dysgu’r iaith dan sylw a nodi sut y gall siaradaeth frodorol hefyd gael effaith niweidiol ar yr unigolion hynny. Nid oes ymchwil blaenorol yng Nghymru i brofi neu wrthbrofi bodolaeth siaradaeth frodorol, felly, trafodaeth agoriadol sydd yn yr astudiaeth hon. Cwblhawyd ymchwil meintiol ac ansoddol er mwyn casglu tystiolaeth o fodolaeth y ffenomen neu beidio. Defnyddiwyd dulliau cymysg trwy holiaduron ar lein ac yna cyfweliadau er mwyn casglu barn a thystiolaeth o achosion i gefnogi neu wrthbrofi bodolaeth siaradaeth frodorol. Casglwyd, yn ogystal, syniadau ar sut i leihau achosion pe bai’n bodoli neu sut i gefnogi arfer dda wrth annog ‘dysgwyr’ sy’n athrawon Cymraeg. Darganfuwyd nad yw siaradaeth frodorol yn bodoli fel rhagfarn gyffredin ond ceir achosion o unigolion yn dangos agweddau negyddol at eraill ar sail cefndir ieithyddol. Cynigir syniadau a gasglwyd oddi wrth gyfranogion ar sut i greu awyrgylch gadarnhaol ar gyfer y rheiny sy’n ceisio gwella eu Cymraeg ym myd addysg.
Item Type: | Thesis (Masters) |
---|---|
Uncontrolled Keywords: | bilingualism, teaching, Welsh, native-speakerism, discrimination |
Subjects: | L Education > LB Theory and practice of education P Language and Literature > PB Modern European Languages |
Divisions: | Institutes and Academies > Institute of Education and Humanities > Academic Discipline: Childhood, Youth and Education |
Depositing User: | Lesley Cresswell |
Date Deposited: | 11 Aug 2023 08:26 |
Last Modified: | 27 Aug 2024 14:30 |
URI: | https://repository.uwtsd.ac.uk/id/eprint/2525 |
Administrator Actions (login required)
Edit Item - Repository Staff Only |