Adolygiad integredig o’r dull ysgol gyfan o gefnogi iechyd a lles emosiynol a meddyliol dysgwyr yng Nghymru

Greenway, Charlotte (2024) Adolygiad integredig o’r dull ysgol gyfan o gefnogi iechyd a lles emosiynol a meddyliol dysgwyr yng Nghymru. Gwerddon (38). pp. 77-102. ISSN 1741-4261

[img] Text
rhifyn38-e2-cywir.pdf - Published Version
Restricted to Repository staff only until 17 May 2025.
Available under License CC-BY Creative Commons Attribution.

Download (1MB)

Abstract

Crynodeb: Arweiniodd y dirywiad mewn perthynas â materion sy’n ymwneud ag iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru (Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion [SHRN] 2023) a diwygiadau diweddar i’r cwricwlwm at gyflwyno canllawiau statudol i hybu dull ysgol gyfan i gefnogi lles emosiynol a meddyliol positif holl randdeiliaid y gymuned ysgol (Llywodraeth Cymru [LlC] 2021). Mae’r ‘Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol’ (y Fframwaith) (LlC 2021) yn canolbwyntio ar sefydlu’r gwerthoedd craidd o ‘berthyn’, ‘effeithlonrwydd’ a ‘llais’ ar draws pob agwedd ar ddarpariaeth yr ysgol er mwyn creu cymuned gymdeithasol ac emosiynol gadarnhaol. Bydd yr adolygiad integredig hwn yn archwilio llenyddiaeth sy’n canolbwyntio ar y dulliau ysgol gyfan hyn, ac yn mynd i’r afael â rhai materion sy’n hwyluso ac yn rhwystro gweithredu’r rhain yn llwyddiannus. Dengys y canfyddiadau nad yw nifer o ysgolion wedi ymrwymo’n llawn i’r Fframwaith (LlC 2021) hyd yma, yn enwedig felly o safbwynt y dull ysgol gyfan, felly terfynir yr erthygl trwy gynnig argymhellion ar gyfer y ffordd ymlaen. Allweddeiriau: dull ysgol gyfan, dysgwyr, athrawon, uwch-dîm rheoli, iechyd meddwl, lles, lles emosiynol, dull ysgol gyfan, diwygio’r cwricwlwm.

Item Type: Article
Subjects: L Education > L Education (General)
Divisions: Institutes and Academies > Institute of Education and Humanities > Academic Discipline: Psychology and Counselling
Depositing User: Charlotte Greenway
Date Deposited: 07 Jan 2025 12:10
Last Modified: 07 Jan 2025 12:10
URI: https://repository.uwtsd.ac.uk/id/eprint/3294

Administrator Actions (login required)

Edit Item - Repository Staff Only Edit Item - Repository Staff Only