Y Plentyn Hapus: Ymchwiliad i ddehongliadau a phrofiadau plant 3 – 7 oed o’r hyn sy’n creu ymdeimlad o hapusrwydd ynddynt o fewn yr ysgol.

Jennings, Carys (2025) Y Plentyn Hapus: Ymchwiliad i ddehongliadau a phrofiadau plant 3 – 7 oed o’r hyn sy’n creu ymdeimlad o hapusrwydd ynddynt o fewn yr ysgol. Doctoral thesis, University of Wales Trinity Saint David.

[img] Text
Jennings_C_EDD_Thesis.pdf - Accepted Version
Available under License CC-BY-NC-ND Creative Commons Attribution Non-commercial No Derivatives.

Download (7MB)

Abstract

Er bod llais a lles y plentyn yn flaenoriaeth o fewn ein system addysg yma yng Nghymru, prin yw’r dystiolaeth sydd yn seiliedig ar holi ein dysgwyr ifainc am eu profiadau o hapusrwydd o fewn yr ysgol. Er bod yr awydd yn gryf i sicrhau amgylcheddau a phrofiadau addysgegol ysgogol a fydd yn apelio at y plant ac yn cyfrannu at eu hapusrwydd, ychydig o waith ymchwil a wnaed i’r perwyl hwn. Mae Cwricwlwm i Gymru (2022) yn dathlu cyfraniadau plant fel rhan o gynllunio gan annog addysgwyr i ymateb i anghenion emosiynol a datblygol y plentyn fel rhan o’r dylanwadau ar hapusrwydd plant tra yn yr ysgol, ac o ganlyniad, egwyddorion sy’n sylfaen iddo. Mae’r ymchwiliad ansoddol hwn yn ystyried sut y gall y wybodaeth am eu hapusrwydd gyfrannu at ddealltwriaeth athrawon o hoffterau eu disgyblion er mwyn creu darpariaethau cyfranogol. Safiad damcaniaethol lluniadaeth gymdeithasol (social constructivist) a berthyn i Vygotsky (1978) a model sosioecolegol Bronfenbrenner (1979) a ystyria’r plentyn fel unigolyn medrus a rhagweithiol sy’n sail i’r ymchwil. Credir bod y bydoedd mae’r plentyn oddi mewn iddynt yn dylanwadu ar eu hoffter, dymuniad a’u brwdfrydedd i ymglymu a magu ymdeimlad o berthyn emosiynol. Casglwyd y data gan gyfuno moddau cymysg dull Mosaic (Clark a Moss, 2017; Ungar, 2010) a fu’n fodd o adeiladu darlun cyflawn o hapusrwydd y plant; a gweithredwyd dull dadansoddi Braun a Clarke (2022) o adnabod themâu o fewn y data. Dengys y casgliadau bod ffactorau amrywiol yn dylanwadu ar hapusrwydd plant ifainc tra yn yr ysgol; gyda gofodau, offer, cyfleoedd, pobl a gweithgareddau amrywiol yn eu plith. Cynigir y gall cywain mwy am hapusrwydd plant yn ystod eu haddysg gyfrannu at ein dealltwriaeth o rym lleisiau plant am eu profiadau ar y pryd, a bod yn offeryn amhrisiadwy o fewn arfogaeth addysgegol addysgwyr.

Item Type: Thesis (Doctoral)
Subjects: L Education > LB Theory and practice of education > LB1501 Primary Education
L Education > LC Special aspects of education
Divisions: Theses and Dissertations > Doctoral Theses
Depositing User: Victoria Hankinson
Date Deposited: 18 Sep 2025 09:29
Last Modified: 18 Sep 2025 09:29
URI: https://repository.uwtsd.ac.uk/id/eprint/3922

Administrator Actions (login required)

Edit Item - Repository Staff Only Edit Item - Repository Staff Only