Ffactorau sydd yn dylanwadu ar rieni wrth iddynt ddewis cyfrwng addysg gynradd i'w plant mewn ardal benodol yn Sir Gaerfyrddin

Davies, Llinos Mai (2010) Ffactorau sydd yn dylanwadu ar rieni wrth iddynt ddewis cyfrwng addysg gynradd i'w plant mewn ardal benodol yn Sir Gaerfyrddin. Masters thesis, University of Wales Trinity Saint David.

[img]
Preview
Text
Rhan 1-3_ Cyflwyniad, Adolygiad o'r Llenyddiaeth a Methodoleg.pdf
Available under License CC-BY Creative Commons Attribution.

Download (214kB) | Preview
[img]
Preview
Text
Rhan 5_ Trafodaeth.pdf
Available under License CC-BY Creative Commons Attribution.

Download (69kB) | Preview
[img]
Preview
Text
Atodiadau.pdf
Available under License CC-BY Creative Commons Attribution.

Download (235kB) | Preview
[img]
Preview
Text
Cyfeiriadau.pdf
Available under License CC-BY Creative Commons Attribution.

Download (36kB) | Preview
[img]
Preview
Text
Pennod 4 Dadansoddiad.pdf
Available under License CC-BY Creative Commons Attribution.

Download (227kB) | Preview

Abstract

Bwriad Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) yw creu cynnydd o 5% yn nifer siaradwyr y Gymraeg erbyn 2011 o gymharu â nifer Cyfrifiad 2001. Yn ôl Redknap (2006), golygai hynny gynnydd o 160,000. Er mwyn sicrhau’r cynnydd hwnnw, ystyrir bod gan y gyfundrefn addysg swyddogaeth allweddol. Yn ôl Redknap (2006), ymddengys y bydd angen cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion sydd yn derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector cynradd i sicrhau’r twf angenrheidiol. Beth bynnag, er i’r ystadegau dros y blynyddoedd ddangos cynnydd amlwg yn nifer y disgyblion sydd yn mynychu sefydliadau cyfrwng-Cymraeg, gan gynnwys plant o gefndiroedd ieithyddol Cymraeg, Saesneg a chymysg, ac er gwaethaf tystiolaeth gadarnhaol iawn o faes ymchwil am fanteision gwybyddol a deallusol dwyieithrwydd (Peal a Lambert, 1962; Cummins, 1987; May et al., 2004), dengys ystadegau LlCC bod y mwyafrif o rieni yn dewis addysg cyfrwng-Saesneg i'w plant. Yn wyneb dymuniad LlCC i gynyddu nifer siaradwyr y Gymraeg felly, rhaid ystyried beth fydd effaith y tueddiadau presennol ar y nod hwnnw. Seilwyd yr ymchwil hwn ar arolwg o sylwadau ac agweddau rhieni sydd wedi gosod eu plant mewn modelau gwahanol o ddarpariaeth ieithyddol, sef ysgol gynradd Gymraeg benodedig (ysgol Categori 1), ysgol gynradd cyfrwng-Saesneg (ysgol Categori 5) ac ysgol dwy ffrwd (ysgol Categori 2). Ystyrir pa ffactorau fu’n ddylanwadol wrth i’r rhieni hynny ddewis ysgol i’w plant ynghyd â’r ffactorau a’u rhwystrodd rhag dewis addysg cyfrwng Cymraeg. Daw’r ymchwil hwn i’r casgliad bod lle i hyrwyddo manteision dwyieithrwydd ac addysg cyfrwng-Cymraeg yn fwy egnïol yn lleol ac yn genedlaethol.

Item Type: Thesis (Masters)
Additional Information: Series: Carmarthen / Lampeter Dissertations;10412/211.
Uncontrolled Keywords: Primary education Carmarthenshire (Wales)
Subjects: L Education > L Education (General)
P Language and Literature > P Philology. Linguistics
Divisions: Theses and Dissertations > Masters Dissertations
Depositing User: John Dalling
Date Deposited: 30 Oct 2014 18:10
Last Modified: 27 Aug 2024 13:50
URI: https://repository.uwtsd.ac.uk/id/eprint/399

Administrator Actions (login required)

Edit Item - Repository Staff Only Edit Item - Repository Staff Only